
PRYD:
27ain Gorffennaf 2016, cofrestru 9.30yb i ddechrau am 10yb hyd 4.30yp
BLE:
Eglwys Temple Baptist, Pontypridd, CF37 2BP
BETH?
Mae SOW 4:14 yn ddigwyddiad addoliad creadigol undydd ar gyfer plant 4 i 14 oed.
Rydyn ni fel SOW yn angerddol dros fagu’r genhedlaeth nesaf, nid yn unig i fod yn ddilynwyr Crist, ond i ddarganfod eu hunaniaeth ynddo Ef ac i fod yn bopeth y mae Ef wedi’u creu nhw i fod.
Yn ystod y dydd byddwn yn arbrofi ag addoliad drwy’r celfyddydau creadigol: cerddoriaeth, dawns, drama a chelf, gan annog y bobl ifanc i ddarganfod mwy o’r potensial mae Duw wedi’i roi ynddyn nhw. Byddant yn dysgu mwy am Ei galon a’i gariad dwfn amdanyn nhw ac yna’n datblygu calon o gariad tuag at Dduw ac eraill.
Yn gymysg â llawer o hwyl a gêmau a chwerthin, mae rhywbeth i bawb!!
GWYBODAETH:
Dewch â phecyn cinio – bydd byrbrydau a diodydd yn cael eu darparu.
Ar gyfer oedran 4-14
PRIS:
£7.50 y plentyn (os oes mwy na dau blentyn, plant ychwanegol £5)
BWCIO:
Gallwch fwcio trwy Ganolfan Gelfyddydau The Gate trwy alw 02920 483344.