Cefndir SOW.

 
 

Sefydlwyd SOW gan Cath Woolridge yn 2010. Yn ystod y degawd diwethaf, rydym wedi cynnal cynadleddau creadigol ac addoliad i blant ac oedolion, wedi sefydlu côr cymunedol ffyniannus, ac wedi recordio pedair albwm addoli. Mae SOW hefyd wedi ymweld â charchardai, ysgolion, cartrefi gofal ac eglwysi.

Mae SOW hefyd wedi arwain addoliad mewn cynadleddau Cristnogol cenedlaethol ac yn rhyngwladol fel New Wine, New Wine Cymru, New Word Alive, Brecwast Gweddi Cenedlaethol Cymru, a Spring Harvest. Rydym wedi buddsoddi'n greadigol i fewn i brosiectau cymunedol bach, yn ogystal â darparu hyfforddiant addoli i eglwysi lleol.

Rydym wedi ffurfio partneriaethau gyda gweinidogaethau fel Cymdeithas y Beibl, Coleg Beibl Cymru, Elevation Music ac Integrity Music. Yn ddiweddar, mae SOW wedi sefydlu sianel YouTube i gynnig cyfres o adnoddau i'r eglwys ac hefyd wedi lansio platfform ddigidol o'r enw 'Creative Exchange’ sy'n hwb o gynnwys digidol fydd yn ysbrydoli ac arfogi eraill drwy ffydd a chreadigrwydd.

Wrth i ni edrych at y dyfodol, bydd y bardd a'r storïwr Dai Woolridge yn arwain y weledigaeth a'r strategaeth greadigol ar gyfer SOW ochr yn ochr â Cath. Fel rhan o hyn, bydd gweinidogaeth greadigol Dai' 'Spoken-Truth' yn cael ei hymgorffori yng ngweledigaeth SOW. Rydym yn gyffrous i ehangu ein gweledigaeth greadigol wrth i ni geisio adrodd stori pethau cysegredig, arfogi cenedlaethau ac effeithio ar gymunedau a diwylliant.


Sound of Wales (SOW) …

- weinidogaeth drawsenwadol sy'n alinio ei hun gyda sylfaen ffydd y Cynghrair Efengylaidd.

- gasgliad o bobl creadigol led-led Cymru sydd ag angerdd am addoliad, creadigrwydd a ffydd yn Iesu.

- ceisio gwasanaethu'r eglwys a chael effaith ar gymunedau gan wneud gwahaniaeth drwy greadigrwydd.